TELERAU TRWYDDED
MEDDALWEDD MICROSOFT
GWIRIAD IECHYD CYFRIFIADUR MICROSOFT
WINDOWS
OS
YDYCH CHI'N BYW YN (NEU YN FUSNES GYDA'R PRIF LEOLIAD BUSNES YN)
UNOL DALEITHIAU AMERICA, DARLLENWCH YR ADRAN “YMWADIAD CYFLAFAREDDU A CHYD-ACHOS SY’N RHWYMO”
ISOD. MAE’N EFFEITHIO AR SUT CAIFF ANGHYDFODAU EU DATRYS.
Mae'r
telerau trwydded hyn yn gytundeb rhyngoch chi a Microsoft Corporation (neu un o'i
gwmnïau cyswllt). Maen nhw’n berthnasol i’r meddalwedd a enwir uchod ac unrhyw wasanaethau
neu ddiweddariadau meddalwedd Microsoft (ac eithrio i’r graddau y daw gwasanaethau neu ddiweddariadau o’r fath
gyda thelerau newydd neu ychwanegol, yn yr achos hynny mae’r telerau
gwahanol hynny’n berthnasol ac nid ydynt yn newid eich hawliau chi na hawliau Microsoft sy’n ymwneud
â gwasanaethau neu feddalwedd cyn diweddaru). OS YDYCH CHI'N CYDYMFFURFIO Â’R
TELERAU TRWYDDED HYN, BYDD GENNYCH YR HAWLIAU ISOD. DRWY DDEFNYDDIO'R MEDDALWEDD, RYDYCH
YN DERBYN Y TELERAU HYN.
1. HAWLIAU GOSOD
A DEFNYDDIO.
a) Cyffredinol.
Cewch osod a defnyddio faint bynnag o gopïau o'r meddalwedd ag y dymunwch chi.
b) Cydrannau
Trydydd Parti. Gall y meddalwedd gynnwys cydrannau trydydd parti gyda
hysbysiadau cyfreithiol ar wahân neu wedi’u llywodraethu gan gytundebau eraill, fel y disgrifir yn
y ffeil(iau) HysbysiadauTrydyddParti sy’n dod gyda’r meddalwedd.
a) Casglu
Data. Gall y meddalwedd gasglu data amdanoch chi a’ch defnydd o’r
meddalwedd a’i anfon i Microsoft. Caiff Microsoft ddefnyddio’r wybodaeth hon i
ddarparu gwasanaethau a gwella ein cynnyrch a gwasanaethau. Gallwch ddewis optio allan o’r
senarios hyn, ond nid y cyfan, fel y disgrifir yn nogfennau’r cynnyrch.
Mae rhai nodweddion yn y meddalwedd sydd hefyd o bosib yn eich galluogi i gasglu
data gan ddefnyddwyr eich rhaglenni. Os byddwch chi’n defnyddio’r nodweddion hyn i alluogi casglu
data yn eich rhaglenni, rhaid i chi gydymffurfio â’r gyfraith berthnasol, gan gynnwys
darparu hysbysiadau priodol i ddefnyddwyr eich rhaglenni. Gallwch ddysgu mwy
am gasglu a defnyddio data yn y dogfennau help a’r datganiad
preifatrwydd yn https://aka.ms/privacy. Drwy ddefnyddio’r
meddalwedd rydych chi’n caniatáu’r arferion hyn.
b) Prosesu
Data Personol. I’r graddau mae Microsoft yn brosesydd neu’n is-brosesydd
data personol mewn perthynas â’r meddalwedd, mae Microsoft yn gwneud yr ymrwymiadau
yn Nhelerau Rheoliad Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd ar Ddiogelu Data Telerau Gwasanaethau
Ar-lein i bob cwsmer o 25 Mai, 2018, yn https://docs.microsoft.com/en-us/legal/gdpr.
3. CWMPAS
Y DRWYDDED. Mae’r meddalwedd hwn yn cael ei drwyddedu, nid ei werthu. Mae Microsoft yn cadw pob
hawl arall. Oni bai fod y gyfraith berthnasol yn rhoi mwy o hawliau i chi er gwaethaf y
cyfyngiad hwn, fyddwch chi ddim yn (ac ni fydd gennych hawl i):
a)
gweithio o amgylch unrhyw
gyfyngiadau technegol yn y meddalwedd sydd ond yn caniatáu i chi ei ddefnyddio mewn ffyrdd penodol;
b)
tynnu’r meddalwedd oddi wrth ei gilydd, ei
ddatgrynhoi na’i ddatgymalu, na cheisio tynnu’r cod ffynhonnell ar gyfer y
meddalwedd, heblaw am a dim ond i’r graddau sy’n ofynnol gan delerau trwyddedu trydydd parti sy’n
rheoli’r defnydd o gydrannau ffynhonnell agored penodol a allai fod wedi’u cynnwys gyda’r
meddalwedd;
c)
tynnu, lleihau, rhwystro neu addasu unrhyw
hysbysiadau gan Microsoft neu ei gyflenwyr yn y meddalwedd;
d)
defnyddio’r meddalwedd mewn unrhyw ffordd sydd yn
erbyn y gyfraith nac i greu neu ddosbarthu drwgwedd; nac
e) rhannu,
cyhoeddi, dosbarthu neu brydlesu’r meddalwedd, darparu’r meddalwedd fel
datrysiad annibynnol wedi’i gynnal i eraill ei ddefnyddio, na throsglwyddo’r meddalwedd neu’r
cytundeb hwn i unrhyw drydydd parti.
4. CYFYNGIADAU
AR ALLFORIO. Rhaid i chi gydymffurfio â’r holl gyfreithiau a rheoliadau
allforio domestig a rhyngwladol sy’n berthnasol i’r meddalwedd, sy’n cynnwys cyfyngiadau ar
gyrchfannau, defnyddwyr a defnydd. I gael rhagor o wybodaeth am gyfyngiadau
allforio, ewch i https://aka.ms/exporting.
5. GWASANAETHAU
CEFNOGI. O dan y cytundeb hwn nid oes yn rhaid i Microsoft ddarparu unrhyw
wasanaethau cefnogi ar gyfer y meddalwedd. Bydd unrhyw gefnogaeth yn cael ei darparu “fel y mae”, “gyda
phob nam” a heb warant o unrhyw fath.
6. DIWEDDARIADAU.
O bryd i’w gilydd gall y meddalwedd chwilio am ddiweddariadau, a’u llwytho i lawr a’u gosod
i chi. Dim ond gan Microsoft neu ffynonellau awdurdodedig y cewch chi gael diweddariadau.
Efallai y bydd angen i Microsoft ddiweddaru eich system er mwyn rhoi diweddariadau i chi. Rydych chi’n cytuno
i dderbyn y diweddariadau awtomatig hyn heb unrhyw hysbysiad ychwanegol. Efallai na fydd diweddariadau’n cynnwys
neu’n gallu delio â holl nodweddion, gwasanaethau na
dyfeisiau perifferol y meddalwedd cyfredol.
8. Y
CYTUNDEB CYFAN. Y cytundeb hwn, ac unrhyw delerau eraill y gall Microsoft eu darparu ar gyfer
ychwanegiadau, diweddariadau, neu raglenni trydydd parti, yw'r cytundeb cyfan ar gyfer
y meddalwedd.
9. Y GYFRAITH BERTHNASOL
A’R LLEOLIAD I DDATRYS ANGHYDFODAU. Os cawsoch chi'n meddalwedd yn yr
Unol Daleithiau neu yng Nghanada, mae cyfreithiau'r dalaith lle rydych chi’n byw (neu,
os ydych chi’n fusnes, prif leoliad eich busnes) yn llywodraethu
dehongli’r cytundeb hwn, hawliadau am ei dorri, a phob hawliad arall
(gan gynnwys diogelu defnyddwyr, cystadleuaeth annheg a hawliadau camwedd),
heb ystyried egwyddorion gwrthdaro cyfreithiol, ac eithrio bod yr FAA yn llywodraethu
popeth sy’n ymwneud â’r cyflafareddu. Os cawsoch chi’r meddalwedd mewn unrhyw wlad
arall, mae ei chyfreithiau’n berthnasol, ac eithrio bod yr FAA yn llywodraethu popeth sy’n ymwneud â’r
cyflafareddu. Os yw awdurdodaeth ffederal Unol Daleithiau America’n bodoli, rydych chi a Microsoft yn cydsynio i awdurdodaeth
lwyr a lleoliad yn y llys ffederal yn King County,
Washington ar gyfer pob anghydfod a wrandewir mewn llys (ac eithrio cyflafareddu). Os nad ydych yn gwneud hynny, rydych chi
a Microsoft yn cydsynio i awdurdodaeth lwyr a lleoliad yn Uwch Lys
King County, Washington ar gyfer pob anghydfod a wrandewir yn y llys (ac eithrio
cyflafareddu).
10. HAWLIAU
DEFNYDDWYR; AMRYWIADAU RHANBARTHOL. Mae’r cytundeb hwn yn disgrifio rhai hawliau cyfreithiol.
Efallai fod gennych chi hawliau eraill, gan gynnwys hawliau defnyddwyr, dan gyfreithiau eich
talaith neu’ch gwlad. Ar wahân ac yn wahanol i’ch perthynas â
Microsoft, mae’n bosibl y bydd gennych hawliau hefyd mewn perthynas â’r parti roeddech chi wedi
cael y meddalwedd ganddynt. Nid yw'r cytundeb hwn yn newid yr hawliau eraill hynny os nad ydy
cyfreithiau'ch talaith neu’ch gwlad yn caniatáu iddo wneud hynny. Er
enghraifft, os cawsoch chi'r meddalwedd yn un o’r rhanbarthau isod, neu os bydd cyfraith
gwlad orfodol yn berthnasol, yna mae’r darpariaethau canlynol yn berthnasol i chi:
a)
Awstralia. Mae gennych chi warantau statudol o dan Gyfraith Defnyddwyr
Awstralia ac nid oes bwriad i ddim byd yn y cytundeb hwn effeithio ar yr hawliau hynny.
b)
Canada. Os cawsoch chi'r meddalwedd hwn yng Nghanada, gallwch roi’r gorau
i dderbyn diweddariadau drwy ddiffodd y nodwedd diweddaru awtomatig, datgysylltu'ch
dyfais oddi wrth y Rhyngrwyd (os a phan fyddwch chi’n ailgysylltu â’r Rhyngrwyd,
fodd bynnag, bydd y meddalwedd yn ailddechrau chwilio am ddiweddariadau a'u gosod), neu
ddadosod y meddalwedd. Mae’n bosibl y bydd dogfennau’r cynnyrch, os oes rhai, hefyd yn nodi
sut mae diffodd diweddariadau ar gyfer eich dyfais neu feddalwedd penodol.
c)
Yr Almaen ac Awstria.
i. Warant. Bydd y meddalwedd sydd wedi’i drwyddedu’n briodol yn cyflawni’n
sylweddol fel y disgrifir mewn unrhyw ddeunyddiau Microsoft a ddaw gyda’r
meddalwedd. Fodd bynnag, nid yw Microsoft yn rhoi dim gwarant dan gontract mewn perthynas â'r
meddalwedd sydd wedi'i drwyddedu.
ii. Cyfyngu ar Atebolrwydd. Yn achos ymddygiad bwriadol, esgeulustod difrifol,
hawliadau ar sail y Ddeddf Atebolrwydd Cynnyrch, yn ogystal â mewn achos o farwolaeth neu
anaf personol neu ffisegol, mae Microsoft yn atebol yn ôl y gyfraith
statudol.
Yn amodol ar gymal ii uchod, fydd
Microsoft ond yn atebol am fân esgeulustod os bydd Microsoft yn torri
rhwymedigaethau cytundebol perthnasol o’r fath, y mae eu cyflawni’n hwyluso
perfformiad y cytundeb hwn, y byddai eu torri yn peryglu
diben y cytundeb hwn a chydymffurfiad y gall parti
ymddiried ynddo’n gyson (a elwir yn "ddyletswyddau allweddol"). Mewn achosion eraill o fân
esgeulustod, ni fydd Microsoft yn atebol am fân esgeulustod.
11. YMWADIAD
WARANT. CAIFF Y MEDDALWEDD EI DRWYDDEDU “FEL Y MAE.” CHI SY’N GYFRIFOL AM Y RISG O’I DEFNYDDIO.
NID YW MICROSOFT YN RHOI UNRHYW WARANTAU, GWARANTAU NAC AMODAU PENODOL. I’R GRADDAU
A GANIATEIR O DAN GYFREITHIAU PERTHNASOL, MAE MICROSOFT YN EITHRIO POB WARANT YMHLYG,
GAN GYNNWYS MARCHNADWYEDD, ADDASRWYDD AT DDIBEN PENODOL, A
PHEIDIO Â THORRI AMODAU.
Mae'r cyfyngiad yn
berthnasol i (a) unrhyw beth sy’n ymwneud â’r meddalwedd, y gwasanaethau, y cynnwys (gan gynnwys
cod) ar wefannau trydydd parti, neu raglenni trydydd parti; a (b)
hawliadau am dorri contract, warant, gwarant, neu amod; atebolrwydd
caeth, esgeulustod, neu gamwedd arall; neu unrhyw hawliad arall; ym mhob achos i’r
graddau a ganiateir gan y gyfraith berthnasol.
Mae hefyd yn berthnasol hyd yn oed os oedd Microsoft yn gwybod
neu dylai fod wedi gwybod am y posibilrwydd o iawndal. Efallai na fydd y cyfyngiad
neu’r eithriad uchod yn berthnasol i chi oherwydd efallai
nad yw'ch talaith neu'ch gwlad yn caniatáu eithrio neu gyfyngu ar iawndal achlysurol, canlyniadol neu
iawndal arall.